LIBERA

Ni yw Libera. Asiantaeth greadigol ddigidol sy’n ddwyieithog o'n pen i'n traed. Ein bara menyn yw'r cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni'n deall sut i ddefnyddio platfformau digidol i farchnata'n effeithiol ac i gynhyrchu cynnwys sy'n torri trwy'r sŵn.

Gwasanaethau

Wedi cael digon o gyhoeddi cynnwys heb ddeall os yw'n effeithiol neu beidio? Yn 2024 mae'r dirwedd ddigidol yn gynyddol brysur, a gall creu syniadau creadigol sydd hefyd yn berthnasol ac effeithiol fod yn her. Gallwn ni weithio gyda chi i'ch helpu i greu cynnwys sy'n dal sylw, boed trwy ddiwrnodau cynhyrchu misol i'ch sicrhau gyda llif cyson o gynnwys wedi'i deilwra, neu wrth reoli dylanwadwyr a chrëwyr i roi hwb i weladwyedd eich brand, neu i sicrhau bod eich allbwn creadigol wedi'i optimeiddio yn gywir i'r platfformau dan sylw.

Dysgu mwy

Wrth i batrymau gwylio symud i fwy o wylio ar-alw dros wylio llinol, mae cynllun digidol strategol yn hanfodol i hyrwyddo cynyrchiadau, i ymgysylltu â ffans, ac yn y pen draw i ysgogi gwylio ar draws darlledu a ffrydio. P’un a yw’n gynnwys sy'n cynnig cip tu ôl i’r llen, yn gyfweliadau â'r cast, yn gynnwys digidol atodol neu’n ddefnydd o ddylanwadwyr, mae crefftio cynnwys effeithiol wedi’i optimeiddio ar gyfer llwyfannau digidol yn allweddol i adeiladu momentwm, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac i gynyddu gwylio. Mae gan ein tîm flynyddoedd o brofiad yn creu cynnwys digidol ar gyfer cynyrchiadau teledu ac maent yn barod i greu datrysiadau digidol wedi'u teilwra i hybu llwyddiant eich cynhyrchiad chi.

Dysgu mwy

Mae gweithgareddau organig a gweithgareddau taladwy ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni gwahanol nodau busnes. Gall eich presenoldeb organig ddyfnhau perthnasoedd â'ch cynulleidfa a darparu ffenestr siop i ddarpar gwsmeriaid, tra bo hysbysebion cymdeithasol a hysbysebion peiriannau chwilio yn caniatáu ichi dargedu'ch cynulleidfa ddelfrydol yn fanwl ar adegau perthnasol i gynyddu cyrhaeddiad neu ysgogi gweithredu uniongyrchol. Gallwn ni eich helpu i greu cynnwys perswadiol sy'n addas ar gyfer hysbysebion, neu reoli eich ymgyrch daladwy yn llwyr o'r cynllunio i'r dadansoddi.

Dysgu mwy

P'un a ydych chi eisiau gwasanaeth llawn o'r dechrau i'r diwedd neu fewnbwn gan feddwl digidol i helpu gyda syniadau, ry'n ni'n barod i weithio gyda chi fel ychwanegiad i'ch tîm. O syniadaeth i strategaeth i weithredu, gall ein tîm ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'ch anghenion chi. Wedi dod i ddeall eich busnes yn gywrain, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu syniadau sy'n apelio i'ch cynulleidfa, i weithredu cynlluniau aml-blatfform i ymgysylltu â chwsmeriaid, ac i sicrhau canlyniadau mesuradwy. 

Dysgu mwy

O’n 17 mlynedd cyfunol o brofiad mewn marchnata, cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu cynnwys, ry'n ni wedi gwneud y cyfan o ymgyrchoedd marchnata mawr i greu cynnwys digidol i raglenni teledu, o hyrwyddo digwyddiadau i hysbysebion taladwy. Efallai eich bod yn awyddus i gael pâr newydd o lygaid ar eich marchnata neu eich cyfryngau cymdeithasol, i gael syniadau a strategaethau newydd i roi hwb i'ch ymdrechion. Byddem wrth ein bodd yn sgwrsio - cysylltwch i weld sut y gallwn gydweithio.

Dysgu mwy

Ein cleientiaid

S4C

Urdd

Tinopolis Cymru 

TinInt

Royal Welsh Agricultural Society

Menter a Busnes

West Wales Holiday Cottages

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Canolfan S4C Yr Egin

Mudiad Meithrin

Cyngor Llyfrau Cymru

Jackie James

Adborth gan ein cleientiaid

"A few months ago, we engaged with Libera to manage our PPC accounts. We were looking for a fresh perspective to our substantial investment in paid advertising, and we found just that while collaborating with Alun and Elan.

The team bring different skills to the running of the account and delve deep into the performance metrics, generating innovative marketing ideas for improvement.

Unlike other agencies, Alun and Elan don't present a report just full of numbers. Instead, they offer genuine insights, crafting a narrative of the accounts performance, identifying trends, and present new ideas to ensure our paid advertising delivers. What started as a short-term relationship has evolved into a sustained partnership, a testament to how well it’s been working.

We see Libera as an extension of our company, and they bring personality to our paid advertising strategy, demonstrating a genuine interest in our business and a commitment to driving success. Diolch am bopeth!"

Sian-Elin Davies, Business Director - West Wales Holiday Cottages

"Fe ofynnais i Libera yn ddiweddar am help gyda rhywfaint o ddadansoddi data cyfryngau cymdeithasol, a ches i ddim fy siomi.


Mae eu gallu i ddadansoddi data a'u trawsnewid i grynodeb clir, dealladwy yn anhygoel. Fe wnaeth Alun droi her frawychus yn broses pleserus, gan ddatrys cymhlethdodau cyfryngau cymdeithasol yn rhwydd.


Nid casgliad o rifau oedd y crynodeb, ond naratif a oedd yn cyfleu stori am bresenoldeb ein brand ar gyfryngau cymdeithasol.


Nododd dueddiadau, yn ogystal â meysydd i’w gwella, a chyflwynodd argymhellion mewn ffordd a oedd yn ymarferol ac a fydd, heb os, yn llywio ein strategaethau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.


Os ydych chi'n chwilio am asiantaeth greadigol digidol sydd nid yn unig yn deall data ond sydd hefyd â'r gallu creadigol i'w drawsnewid yn strategaethau y gellir ei weithredu, Libera yw'r partner delfrydol."

Emyr Penlan, Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd a Chyflwynydd - Tinopolis


"Cawsom dri sesiwn hyfforddiant wych gan Libera yn dysgu am Hysbysebion Taladwy ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd Elan ac Alun yn cyflwyno mewn ffordd syml, dealladwy ac yn cyfleu eu arbenigedd yn wych. Wedi dysgu llwyth - diolch o galon."

Gwenan Davies, Swyddog Marchnata Corfforaethol - Menter a Busnes