Ni yw Libera. Cwmni marchnata a chyfryngau sy'n arbenigo mewn strategaeth a chynnwys digidol ar gyfer teledu a diwylliant.
Mae gan ein tîm gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol ar gyfer amrywiol ddisgyblaethau, gan gynnwys darlledu, elusennau a'r trydydd sector, digwyddiadau, chwaraeon, a phrofiad helaeth o weithio ar ymgyrchoedd marchnata Cymraeg a dwyieithog i gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru.
Ers sefydlu yn 2023, mae Libera wedi gweithio gyda rhai o sefydliadau a brandiau mwyaf Cymru, gan gynnwys BBC Studios, BBC Cymru, S4C, Tinopolis, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a llawer mwy.
Mae ein tîm cyfan yn gwbl ddwyieithog - rydyn ni'n siarad, ysgrifennu, darllen, bwyta, cysgu a breuddwydio yn y Gymraeg a'r Saesneg yn rhugl!
Ein Gwerthoedd
Safonau Uchel
Mae sylw i fanylder yn hollbwysig. Mae hyn wrth wraidd ein gwaith. Ein nod yw i wneud gwaith creadigol, effeithiol a mesuradwy.
Meddwl yn Wahanol
Ry'n ni'n credu'n gryf nad oes rhaid i bethau gael eu gwneud yn yr un hen ffordd bob tro. Ry'n ni'n herio ein hunain i feddwl yn wahanol, ar bob cam o'r daith.
Ar y Pyls
Mae'r cyfryngau cymdeithasol a'r dirwedd ddigidol yn symud yn gyflym. Mae bod yn arweinwyr yn y maes yn rhan annatod o'n haddewid ni.
Gydag 8 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes marchnata digidol cyn cychwyn Libera yn 2023, a gradd Meistr Marchnata Digidol, mae Elan yn angerddol am sut y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cyd-fynd â nodau marchnata ehangach.
Mae Elan wedi gweithio ar ymgyrchoedd mawr gan gynnwys arwain ar gynnwys organig a cyfryngau cymdeithasol organig a thaladwy ar gyfer y gyfres deledu Craith ar S4C; rheoli'r holl farchnata digidol ar gyfer ymgyrch codi arian lwyddiannus Het i Helpu ar gyfer elusen Urdd Gobaith Cymru, gan gynnwys cynnwys creadigol, cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost, gwefan a rheolaeth Shopify; a chreu strategaethau cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys ar gyfer gŵyliau gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl Rhuthun.
Gyda 9 mlynedd o brofiad yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol cyn cychwyn Libera yn 2023, mae Alun wedi gweithio ar rai o gyfrifon mwyaf Cymru a’r Gymraeg, gan gynnwys S4C (ac is-frandiau), Heno S4C a’r Scarlets.
Bu Alun yn Reolwr Cyfryngau Cymdeithasol yn S4C am 4 blynedd a hanner, yn gyfrifol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cyfresi teledu, o gynllunio, yr holl ffordd drwodd i ddadansoddi, a phopeth yn y canol, gan adeiladu’r tîm o 2 i 7 aelod yn ystod y cyfnod ac yn profi twf aruthrol ar draws cyfrifon a phlatfformau amrywiol.