Datganiad Polisi Dwyieithrwydd
Libera a'r Iaith Gymraeg
1.1: Mae Libera Digital Ltd yn cydnabod y Gymraeg yng Nghymru ac wedi ymrwymo i godi proffil yr iaith a sicrhau gwelededd yr iaith fel iaith i weithio ac i fyw ynddi.
1.2: Mae Libera Digital Ltd yn sefydliad a gweithle cwbl ddwyieithog, yn gweithredu yn Gymraeg a Saesneg. Rydym yn dal ein hunain i safon uchel ac yn cymryd camau i sicrhau cywirdeb ein cyfathrebiadau yn y ddwy iaith.
1.3: Mae Libera Digital Ltd wedi ymrwymo i sicrhau bod o leiaf 80% o’i weithlu naill ai’n hyfedr yn y Gymraeg neu’n dysgu Cymraeg.
1.4: Wrth weithio yng Nghymru, bydd Libera Digital Ltd yn ymdrechu i weithio gyda gweithwyr llawrydd sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu Cymraeg.
Gohebiaeth:
2.1: Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y ddwy iaith, ac ni fydd hyn yn effeithio ar gyflymder nac ansawdd unrhyw atebion neu ohebiaeth gan Libera Digital Ltd.
2.2: Mae Libera Digital Ltd wedi ymrwymo i gynnal fersiwn Gymraeg o'n gwefan.
Gwaith Cleientiaid:
3.1. Gellir cwblhau gwaith cleient yn y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog, yn unol â gofynion y cleient.
Cyfathrebu Cyhoeddus Libera:
4.1: Bydd cyfathrebu cyhoeddus Libera Digital Ltd ei hun, megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw ddigwyddiadau a drefnwn neu ein postiadau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu gwneud yn yr iaith fwyaf priodol ar gyfer y darn hwnnw o waith a’r gynulleidfa darged.