Pwy ydym ni
Cyfeiriad ein gwefan yw https://liberaagency.com
Mae preifatrwydd a bod yn dryloyw yn bwysig iawn i ni. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych pa ddata personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn ymweld ac yn defnyddio’r wefan hon neu’n cyfathrebu â ni, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio’ch data, sut rydym yn ei rannu ag eraill a sut y gallwch ei reoli.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, yna byddem yn falch o'u hateb. Cysylltwch â ni ar helo@liberaagency.com.
Pa ddata personol rydym yn ei gasglu a pham
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol amdanoch chi:
Gwybodaeth a ddarperir gennych drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan. Drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan rydych yn dewis rhoi eich enw a’ch cyfeiriad e-bost fel y gallwn ymateb i’ch ymholiad. Gallwch hefyd optio i mewn i dderbyn cylchlythyrau gennym ni. Os na fyddwch yn optio i mewn i dderbyn cylchlythyrau, ni fydd eich data yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall y tu hwnt i'ch ymholiad cychwynnol.
Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
Mae'n bosib y byddwn yn cadw manylion unrhyw gyfranogiad, trafodaethau neu swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol ar y wefan.
Mae'n bosib y byddwn yn cadw eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn os ydych yn darparu'r wybodaeth yma i ni
Bydd darparwr dadansoddeg trydydd parti (e.e. Google Analytics) yn casglu gwybodaeth dechnegol ddienw o bob mynediad a wneir i'n gwefan, gan gynnwys y cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhyngrwyd, a gwybodaeth dechnegol arall. Ni fydd modd eich adnabod yn bersonol trwy'r wybodaeth yma.
Sut rydym yn defnyddio eich data
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i:
Gyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gytundebau rhyngoch chi a ni, ac i ddarparu’r wybodaeth, y cynhyrchion a’r gwasanaethau i ateb eich gofynion.
Os ydych chi wedi cydsynio i ni gysylltu â chi at y diben hwn, byddwn yn defnyddio eich data i roi gwybodaeth i chi am gynhyrchion a gwasanaethau eraill yr ydym yn eu cynnig sy'n debyg i'r rhai yr ydych eisoes wedi holi yn eu cylch.
I roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaethau.
Sicrhau bod cynnwys o'n gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi a'r dyfeisiau rydych chi'n eu defnyddio.
Er mwyn mesur a deall effeithiolrwydd hysbysebu rydym yn eu rhedeg i chi ac eraill, ac i gyflwyno hysbysebion perthnasol i chi, dim ond pan fyddwch wedi dewis derbyn cyfathrebiad marchnata.
Datgelu eich gwybodaeth
Rydych yn cytuno bod gennym yr hawl i rannu eich gwybodaeth bersonol gyda:
Unrhyw aelod o'n cwmni lle mae eich gwybodaeth yn berthnasol i gyflenwi'r gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu i chi.
Trydydd partïon penodol gan gynnwys: partneriaid busnes, cyflenwyr ac is-gontractwyr ar gyfer cyflawni unrhyw gytundeb rydym yn ymrwymo iddo gyda chi;
Darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio sy'n ein cynorthwyo i wella ac optimeiddio ein gwefan.
Byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti:
Os bydd dyletstwydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i'ch gwahaniaethu oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefan a hefyd yn ein galluogi i wella ein gwefan. Nid oes modd eich adnabod trwy'r data a gesglir gan gwcis.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Gallwch arfer eich hawl i atal prosesu o'r fath trwy beidio ag optio i mewn i rywun gysylltu â chi at ddibenion marchnata. Gallwch hefyd arfer yr hawl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar helo@liberaagency.com.
Diweddarwyd Mawrth 2023