Wedi cael digon o gyhoeddi cynnwys heb ddeall os yw'n effeithiol neu beidio? Yn 2024 mae'r dirwedd ddigidol yn gynyddol brysur, a gall creu syniadau creadigol sydd hefyd yn berthnasol ac effeithiol fod yn her.
Gyda'r her ychwanegol o gystadleuaeth gynyddol ar-lein a dal sylw defnyddwyr yn mynd yn anoddach ac yn anoddach (oeddech chi'n gwybod bod gennym ni *lai* nag 1 eiliad ar y cyfryngau cymdeithasol i berswadio Gen Zer i barhau wylio ein cynnwys?!), mae'n bwysicach nag erioed i greu cynnwys sy'n bwrpasol, yn dal sylw, a sydd wedi'i optimeiddio'n gywir ar gyfer ymddygiad defnyddwyr ar bob platfform.
Fe allwn ni:
Weithio gyda chi ar ddiwrnodau cynhyrchu misol i ddarparu cyflenwad cyson o gynnwys o ansawdd uchel wedi'i deilwra i chi trwy gydol y flwyddyn.
Reoli perthnasoedd a chynnwys trydydd parti gyda dylanwadwyr a chrëwyr i hwyluso word of mouth ac UGC i roi hwb i weladwyedd eich brand.
Gyflwyno pecynnau gorffenedig o gynnwys creadigol wedi'i optimeiddio ar gyfer pob cam o'ch ymgyrchoedd marchnata.
Wrth i batrymau gwylio symud i fwy o wylio ar-alw dros wylio llinol, mae cynllun digidol strategol yn hanfodol i hyrwyddo cynyrchiadau, i ymgysylltu â ffans, ac yn y pen draw i ysgogi gwylio ar draws darlledu a ffrydio.
Gyda phrofiad o greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol apelgar ar gyfer cynyrchiadau teledu o weithio mewn cwmnïau cynhyrchu ac i ddarlledwyr, mae gan ein tîm y wybodaeth a'r sgiliau i weithio gyda chi i sicrhau cynnwys effeithiol ar gyfer eich cynhyrchiad.
Fe allwn ni:
Gynhyrchu cynnwys BTS sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llen ar gynhyrchiad, cyfweliadau gyda chast neu gynnwys digidol atodol ar gyfer eich cynhyrchiad, wedi'i optimeiddio ar gyfer gwahanol lwyfannau fel YouTube, Instagram, TikTok, Facebook a mwy.
Reoli perthnasoedd a chynnwys gyda dylanwadwyr, gan ysgogi eu cynulleidfaoedd i hybu ymwybyddiaeth o'ch cynhyrchiad.
Weithio gyda chi ar gynllun digidol ar gyfer eich cynhyrchiad ac integreiddio fel rhan o'ch tîm i ddod o hyd i'r atebion gorau i hyrwyddo'ch cyfresi i gynulleidfaoedd ehangach.
Mae gweithgareddau organig a gweithgareddau taladwy ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni gwahanol nodau busnes. Gall eich presenoldeb organig ddyfnhau perthnasoedd â'ch cynulleidfa a darparu ffenestr siop i ddarpar gwsmeriaid, tra bo hysbysebion cymdeithasol a hysbysebion peiriannau chwilio yn caniatáu ichi dargedu'ch cynulleidfa ddelfrydol yn fanwl ar adegau perthnasol i gynyddu cyrhaeddiad neu ysgogi gweithredu uniongyrchol.
Mae gan ein tîm achrediadau mewn Meta Media Buying a Google Ads Responsive Search ac yn gallu cynnig strategaethau i sicrhau bod eich arian hysbysebu yn cael ei wario'n effeithlon.
Fe allwn ni:
Gynhyrchu cynnwys effeithiol wedi'i optimeiddio ar gyfer hysbysebu ar lwyfannau digidol.
Reoli eich ymgyrch daladwy yn llwyr o'r cynllunio i'r dadansoddi ar ystod o blatfformau gan gynnwys Meta (Facebook ac Instagram), Twitter (X), TikTok, Google a Bing.
Gynghori ar elfennau marchnata digidol ehangach i sicrhau bod hysbysebion yn cyflawni gwerth am arian.
P'un a ydych chi eisiau gwasanaeth llawn o'r dechrau i'r diwedd neu fewnbwn gan feddwl digidol i helpu gyda syniadau, ry'n ni'n barod i weithio gyda chi fel ychwanegiad i'ch tîm ymgyrch.
O syniadaeth i strategaeth i weithredu, gall ein tîm ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'ch anghenion chi. Wedi dod i ddeall eich busnes yn gywrain, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu syniadau sy'n apelio i'ch cynulleidfa, i weithredu cynlluniau aml-blatfform i ymgysylltu â chwsmeriaid, ac i sicrhau canlyniadau mesuradwy.
O’n 17 mlynedd cyfunol o brofiad mewn marchnata, cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu cynnwys, ry'n ni wedi gwneud y cyfan o ymgyrchoedd marchnata mawr i greu cynnwys digidol i raglenni teledu, o hyrwyddo digwyddiadau i hysbysebion taladwy.
Efallai eich bod yn awyddus i gael pâr newydd o lygaid ar eich marchnata neu eich cyfryngau cymdeithasol, i gael syniadau a strategaethau newydd i roi hwb i'ch ymdrechion. Byddem wrth ein bodd yn sgwrsio - cysylltwch i weld sut y gallwn gydweithio.
Fe allwn ni:
Gynhyrchu awdit cyfryngau cymdeithasol (gweler prisiau a manylion isod) a darparu cymorth gweithredu un-i-un.
Gynnig cefnogaeth ar bynciau penodol fel cynhyrchu cynnwys, hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu farchnata digidol ar gyfer ymgyrchoedd.
Gyfrannu at ymgyrchoedd gyda chyngor marchnata digidol a/neu cyfryngau cymdeithasol.
Prisiau
Mae ein prisiau yn amrywio yn ôl eich anghenion. Byddem wrth ein bodd yn dod i'ch adnabod a deall yr hyn sydd ei angen arnoch.
Eisiau pâr ffres o lygaid ar eich cyfrifon? Yn awyddus i wybod pa newidiadau fyddai'n mynd â'ch cyfryngau cymdeithasol i'r lefel nesaf? Byddwn yn astudio 3 o'ch cyfrifon ar blatfformau cymdeithasol o'ch dewis. Byddwch yn cael adroddiad manwl o'ch gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol a chyfarfod ble byddwn yn cyflwyno'r pwyntiau gweithredu, syniadau wedi'u teilwra i'ch busnes ac yn ateb eich holl gwestiynau i wella presenoldeb cyfryngau cymdeithasol eich busnes.
£825 + TAW am dri chyfrif
£150 + TAW fesul cyfrif ychwanegol