Cynhyrchu fideo
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
1 hysbyseb, 3 wythnos, 17 fideo terfynol. Cymerwch gip tu ôl i'r llen ar y cynhyrchiad...
Y briff
Roedd gennym 3 targed allweddol i’w cyrraedd gyda’r hysbyseb hon:
1) Arddangos yr amrywiaeth fywiog o brofiadau cyffrous yn y Sioe Frenhinol.
2) Creu ymdeimlad o groeso cynnes i bobl o bob cefndir a chyfathrebu nad yw'r digwyddia ar gyfer y rhai sydd â gwreiddiau mewn ffermio yn unig.
3) Defnyddio Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddo Prydain ar gyfer hygyrchedd a chynwysoldeb.
Be' wnaethon ni
Datrys problemau yn greadigol
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, ond roedd angen yr hysbyseb ym mis Mehefin. Gweld y broblem? Yn amlwg, doedd ffilmio deunydd newydd yn y digwyddiad ei hun ddim yn bosib.
Yn lle hynny, fe wnaethom lunio cysyniad a bwrdd stori i weithio o amgylch yr her hon a dod o hyd i ddeunydd fideo o'r sioe o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys darllediadau teledu'r gorffennol, a defnyddio hyn gyda deunydd newydd a ffilmiwyd ein hunain.
Creu naratif a sgript
Yn aml, mae fideos gyda stori neu ddeialog yn dal sylw ac yn cadw diddordeb yn well na fideos heb unrhyw naratif, oherwydd mae rheswm i wylwyr ddal i wylio.
Mae odl hefyd yn helpu gyda chyfraddau cofio felly fe wnaethom yn siŵr bod gan y sgript odl a rhythm i symud y naratif yn ei blaen.
O ran sgriptio, yn hytrach na chael yr holl ddeialog mewn un iaith, is-deitlau ar gyfer un arall a dehonglydd BSL wedi'i arosod ar y fideo, fe wnaethom greu sgript i gyfuno'r ieithoedd yn ddi-dor a defnyddio capsiynau agored i hwyluso hygyrchedd.
Mae hyn yn normaleiddio pob iaith, yn creu ymdeimlad o undod a chynhwysiant, ac yn cadw'r fideo yn lân ac yn hygyrch i bob gwyliwr.
Castio
Buom yn castio tîm amrywiol o actorion, gan gynnwys rhai wynebau adnabyddus o gylchoedd ffermio.
Trefnwyd y ffilmio rhwng tîm o weithredwyr camera mewn gwahanol leoliadau i atgyfnerthu bod y digwyddiad hwn yn apelio at ystod eang o bobl o bob rhan o Gymru, nid yn unig y rhai o gefndiroedd ffermio.
Gyda chastio a lleoliadau saethu daw trwyddedau ffilmio gwahanol, asesiadau risg a chytundebau - yr ochr llai glamorous o gynhyrchu!
Ymhlith ein cast roedd y digrifwr Mel Owen, y buom yn ei ffilmio o flaen y stadiwm yng Nghaerdydd, mam a babi yn eu ffilmio mewn parc yng ngorllewin Cymru, a chwaraewr Undeb Rygbi Cymru Wyn Jones yn ei ffilmio ar ei fferm, i gyd yn sôn am eu cariad at Sioe Frenhinol Cymru.
Y golygu
Mae'r golygu yr un mor bwysig â'r ffilmio.
Fe wnaethom dorri golygiad cyflym i adlewyrchu'r cyffro a'r wefr o fod yn y digwyddiad.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae capsiynau’n helpu i ddal sylw defnyddiwr ac i gynyddu'r siawns y bydd defnyddiwr yn gwylio ymlaen yn hytrach na'n sgrolio heibio'n syth, felly fe wnaethom ddefnyddio capsiynau agored gydag animeiddiad cynnil, yn hytrach nag is-deitlau statig, i fachu sylw ac i gyfrannu at y profiad gweledol deinamig o'r fideo.
Y canlyniad
Gwyliwch yr hysbyseb orffenedig isod, wedi'i bostio ar sianeli YouTube a chyfryngau cymdeithasol y cleient.
Fe wnaethom gyflwyno sawl fersiwn o'r hysbyseb ar gyfer gwahanol blatfformau a dibenion digidol, gan gynnwys fersiynau ar gyfer TikTok a YouTube, fersiynau ar gyfer gwahanol leoliadau hysbysebu o fersiynau 7 eiliad yr holl ffordd hyd at 60 eiliad, fersiynau â chapsiynau, fersiynau glân ac ychydig o rai eraill. Os yw rhywbeth yn werth ei wneud mae'n werth ei wneud yn dda!
Yn gyflym, casglodd y fideos dros 178,300 o sesiynau gwylio, 3,500 o engagements a llawer o werthfawrogiad ar draws Instagram, TikTok, Facebook a YouTube.
Roeddem wrth ein bodd â’r her o gysyniadu, sgriptio, castio, ffilmio, golygu a chyflwyno’r ymgyrch hon mewn dim ond 3 wythnos o’r dechrau i’r diwedd, a gobeithio y byddwch yn mwynhau gwylio’r fideo cymaint ag y gwnaethom fwynhau ei gynhyrchu.