Cynnwys TikTok
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Ym mis Gorffennaf 2024, fe weithion ni gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i greu a chyhoeddi cynnwys TikTok yn ystod wythnos flynyddol y Sioe Frenhinol.
Y briff
Y briff oedd i boblogi cyfrif TikTok y brand yn ystod wythnos brysuraf y flwyddyn gyda fideos ffurf-fer wedi'u cynllunio i gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd iau.
Be' wnaethon ni
Yn yr wythnosau cyn y digwyddiad, fe wnaethon ni weithio gyda thîm y Sioe i gymeradwyo cynllun cynnwys wedi'i deilwra i gyrraedd eu nodau.
Yn ystod wythnos y Sioe, fe wnaethon ni ffilmio a golygu ar leoliad i gyflwyno cynnwys dyddiol ar gyfer cyfrif TikTok y brand, gan ganiatáu i'w tîm marchnata ganolbwyntio ar gyfrifoldebau eraill yn ystod eu hwythnos brysuraf o'r flwyddyn.
Y canlyniad
Casglodd y cynnwys TikTok dros 500,000 o sesiynau gwylio mewn 4 diwrnod ar gyfrif y brand, yn ogystal ag ennill 2,000+ o ddilynwyr newydd ac ymgysylltiad (engagement) sylweddol, gan gynnwys sentiment cadarnhaol iawn yn y sylwadau tuag at y brand a'r digwyddiad.
Y cynnwys
Cliciwch i wylio